Alun Davies AC

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ

 

25 Mai 2018

Annwyl Ysgrifennydd y Cabinet,

Dogfen Ymgynghori Papur Gwyrdd – Cryfhau Llywodraeth Leol – Cyflawni dros ein Pobl

Diolch am y cyfle i wneud sylwadau ar ‘Gryfhau Llywodraeth Leol - Cyflawni dros ein Pobl – Dogfen Ymgynghori Papur Gwyrdd’. Mewn ymatebion blaenorol i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol, cyfeiriais at dri maes o bwysigrwydd arbennig i bobl hŷn:

·        ymrwymiad na fyddai ansawdd y gwasanaeth a ddarperir i bobl hŷn yn cael ei leihau gan unrhyw ailstrwythuro llywodraeth leol;

·        galluogi lleisiau pobl hŷn i gael eu clywed gan eu Hawdurdodau Lleol, trwy ymgynghori’n effeithiol a chynghorau cymuned cryf; a

·        sicrhau bod cyfansoddiad cynrychiolwyr lleol yn adlewyrchu eu hetholwyr yn well trwy annog merched hŷn a phobl hyn â nodweddion gwarchodedig i ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol ac ymgeisio am swydd etholedig.

 

Llai o Awdurdodau Lleol, sy’n fwy o faint, gyda’r pwerau a’r hyblygrwydd i wneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau

Er bod yr achos dros newid yn cael ei dderbyn yn eang ac yn amlwg yn cael cefnogaeth y Comisiwn ar Lywodraethu a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Comisiwn Williams), mae pryder yn parhau ymhlith pobl hŷn y bydd eu lleisiau’n cael eu colli wrth i faint eu hawdurdod lleol gynyddu. Mae’r cynnig yn nodi’r angen i lywodraeth leol gysylltu â chymunedau, ac mae ymgynghori effeithiol â phobl hŷn a grwpiau eraill yn sylfaenol i atal y pryderon hyn.

Mae’n hollbwysig bod ymgysylltu ac ymgynghori effeithiol ac ystyrlon yn cael ei wneud gyda phobl hŷn ac eraill fel eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u cynnwys yn y broses o newid. Mae pobl hŷn yn dweud wrthyf fod ymgynghoriadau yn aml yn teimlo’n symbolaidd, yn ymarfer ticio blychau, gyda’r casgliad eisoes wedi’i bennu ymlaen llaw.

“Yn 2014, fe gyhoeddais ganllaw arfer da ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori â phobl hŷn,[1] sy’n nodi sut y gellir gwneud y prosesau hyn yn fwy ystyrlon a sut i sicrhau y gellir cynnwys pobl hŷn yn llawn yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.”

Mae’n hollbwysig bod tirlun llywodraeth leol yn y dyfodol yn mynd i’r afael â’r canfyddiadau allweddol yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar ‘Gefnogi Annibyniaeth Pobl Hŷn: A yw Cynghorau’n Gwneud Digon?’[2] ac yn alinio â sbardunau deddfwriaethol allweddol, fel Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, i ddatblygu dull ataliol ac sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, a chydnabod pobl hŷn fel asedau economaidd a chymdeithasol.

At hynny, rwy’n disgwyl i ymrwymiad Awdurdodau Lleol i Ddatganiad Dulyn barhau; mae eu cefnogaeth i ddatblygu Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed, nodwedd allweddol yn rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru, yn hanfodol.

Rhaid i Awdurdodau Lleol hefyd sicrhau bod y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi’u hail-alinio yn cael eu lleoli yng nghanol y gwasanaeth a ddarperir i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu hintegreiddio’n llawn, a chydweithio ar gyfer y canlyniadau gorau i bobl leol, gan amharu cyn lleied â phosib arnynt.

Disgwyliaf i isadeiledd yr Awdurdod Lleol i gefnogi pobl hŷn gael ei atgyfnerthu a’i wneud yn gynaliadwy yn yr agenda ddiwygio, h.y., yn unol â Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Pobl Hŷn 2013-23. Mae hyn yn golygu ail-fuddsoddi mewn swyddi Cydlynwyr Strategaeth Pobl Hŷn, ochr yn ochr â chydnabod rôl Hyrwyddwyr Pobl Hŷn a gwerth Fforymau 50+.

Cryfhau llywodraeth leol a chefnogi’r broses o newid: Gwerthfawrogi cynghorwyr ac amrywiaeth

Croesawaf yr alwad am aelodaeth y cyngor i fod yn gwbl gynrychioliadol o’r gymuned leol ac i gael aelodaeth sy'n berthnasol i bawb. Mae'n bwysig bod llywodraeth leol yng Nghymru yn adlewyrchu ac yn ymatebol i’r poblogaethau amrywiol y maent yn eu cynrychioli. Mae angen mwy o amrywiaeth ymysg aelodau’r cyngor: ar hyn o bryd mae diffyg menywod a chynghorwyr lleiafrifoedd ethnig mewn llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae cyfran helaeth o etholwyr yn bobl hŷn, bron i draean o boblogaeth Cymru, ac mae'n hollbwysig bod eu safbwyntiau'n cael eu cynrychioli. Mae gan bobl hŷn ran allweddol i'w chwarae yn y broses o wneud penderfyniadau Awdurdodau Lleol, boed hynny trwy gael eu hethol, ymgynghoriad lleol, neu o gael cynrychiolaeth o’u lleisiau trwy Fforymau 50+.

Rhaid edrych ar bobl hŷn fel ased i'w cymunedau. Mae ganddynt gyfoeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiad y dylid eu defnyddio i sicrhau bod y ddarpariaeth o’r gwasanaethau cyhoeddus y gorau y gall fod. Gall pobl hŷn helpu i hybu newid yn ein cymdeithas a gwella lles pobl yng Nghymru. Trwy’r agenda ddiwygio ar gyfer llywodraeth leol, mae gennym gyfle i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn wedi’u hymgorffori’n briodol mewn prosesau gwneud penderfyniadau Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Dylai Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) gynnwys mesurau i osod dyletswydd ar Arweinwyr y Cyngor, Arweinyddion Grwpiau a Phrif Weithredwyr, i sicrhau bod amrywiaeth yn cael ei pharchu. Dylid annog menywod hŷn a phobl hŷn â nodweddion gwarchodedig i gyflwyno eu hunain fel ymgeiswyr ar gyfer etholiadau lleol a dylent ffurfio rôl fwy mewn arweinyddiaeth Awdurdodau Lleol.

Cynghorau Tref a Chymuned

Croesawaf y gwerth a roddir ar Gynghorau Tref a Chymuned a chynghorwyr o fewn y cynnig, a chydnabyddiaeth o’r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae. Fe’u nodir yn eithaf cywir fel lefel y llywodraeth yr ystyrir iddi fod agosaf at y gymuned, a’r un sy’n fwyaf hawdd i ymwneud â hi, yn enwedig gan bobl hŷn.

Rwyf hefyd yn croesawu’r adolygiad trawsbleidiol annibynnol[3] i nodi “sut y gellir cryfhau cynghorau cymuned fel y gallant gefnogi eu cymunedau yn y ffordd orau, a gofalu am eu hardaloedd, gan siapio bywydau bob dydd”.

Trawsnewid gwasanaethau a chynnwys pobl

Bydd gwasanaethau cymunedol yn parhau i fod yn fater allweddol ac i lawer, dyma’r prawf litmws ar gyfer pa mor llyfn y mae’r trefniadau pontio yn cael eu rheoli. Yn y pen draw, bydd pobl hŷn yn canolbwyntio ar sut mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu gwella (neu beidio) o dan unrhyw drefn newydd. Mae llawer o bobl hŷn yn dweud wrthyf eu bod yn pryderu ynghylch sut y gwneir penderfyniadau am y gwasanaethau cymunedol hyn. Fel defnyddwyr rheolaidd o wasanaethau cyhoeddus - ac yn aml ‘arbenigwyr yn ôl profiad’ - mae pobl hŷn mewn sefyllfa dda i fesur effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus, ac felly mae angen iddynt chwarae rhan briodol ac ystyrlon yn y ddadl dros wasanaethau lleol. Mae’n hanfodol nad yw unrhyw symudiad tuag at gael llai o Awdurdodau Lleol, ond mwy o faint, yn gwanhau cyfleoedd pobl hŷn i gyfrannu at wneud penderfyniadau lleol ar y gwasanaethau sy’n bwysig iddyn nhw.

Er bod ehangu ar y defnydd o dechnoleg ddigidol ar draws gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei groesawu, mae’n hanfodol bod gwasanaethau all-lein yn parhau i fod ar gael.  Yn 2016/17, roedd dros draean o bobl 50+ yng Nghymru wedi’u hallgáu’n ddigidol ac nid wedi defnyddio gwasanaethau ar-lein[4], ac mae’n rhaid i bobl hŷn felly allu ymgysylltu drwy ddulliau digidol ac nad ydynt yn ddigidol.

Poblogaeth

Er fy mod yn cefnogi'r ymgais i gyflawni eglurder demograffeg ar gyfer y meysydd newydd arfaethedig, hoffwn ailadrodd yr angen i gydnabod nad yw pobl hŷn yn grŵp homogenaidd y gellir eu cynnwys o dan y dosbarthiad syml o ‘bobl 65+ oed’.

Er enghraifft, bydd llawer o bobl hŷn yn parhau i fod yn weithgar yn y gweithlu yn llawer hwyrach mewn bywyd, bydd eraill yn canfod eu hunain mewn rôl gofalwyr di-dâl. Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod gennym nifer sylweddol o bobl hŷn ‘hŷn’ (y rhai dros 85 oed), y gallai eu hanghenion fod yn wahanol iawn i’r rhai yn eu 60au, a rhagwelir y bydd y ddemograffeg hon yn parhau i dyfu’n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod.

Mae’n hanfodol bod y naratif bod pobl hŷn yn faich ar wasanaethau cyhoeddus ac yn peri’r heriau niferus a wynebir gan wasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd, yn cael ei herio yn y modd cryfaf posibl. Felly, mae angen ymagwedd llawer mwy manwl wrth gasglu data o dan yr ôl troed arfaethedig.

Mae hefyd yn bwysig cofio mai pobl hŷn yw’r grŵp sy’n tyfu gyflymaf o ofalwyr di-dâl[5]. Bydd Awdurdodau Lleol felly angen gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod gwasanaethau’n helpu i gynnal lles gofalwyr, a chefnogi perthnasau cadarnhaol a gofalgar.

Asesiad o Effaith a Chydraddoldeb

Mae dyletswydd ar Awdurdodau Lleol, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, i ymgynghori â’r bobl hynny sydd â nodweddion gwarchodedig, fel y cânt eu diffinio yn y Ddeddf.

Er fy mod yn cytuno â’r sylwadau a wnaed yn yr Asesiad o Effaith a Chydraddoldeb sy'n cyd-fynd â'r Papur Gwyrdd y ‘Gallai'r diwygiadau arfaethedig gael effaith gadarnhaol ar bobl o bob oed’, roeddwn i’n disgwyl gweld cyfeiriad at Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn yn yr asesiad, mewn ffordd debyg i'r Asesiad Effaith ar Hawliau Plant ar wahân, sy'n cyfeirio at ‘ystyriaeth ddyledus’ o dan y UNCRC.

Er enghraifft, gellid cyfeirio at ddefnydd cadarnhaol o’r Egwyddorion o dan Egwyddor 7 yn y golofn dystiolaeth. Mae’n dweud ‘Dylai pobl hŷn barhau i gael eu hintegreiddio mewn cymdeithas, cymryd rhan weithredol wrth lunio a gweithredu polisïau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu lles a rhannu eu gwybodaeth a’u sgiliau gyda chenedlaethau iau’. Byddai hyn wedi atgyfnerthu ac wedi ychwanegu trylwyredd at y casgliad y gallai’r cynnig ‘gael effaith gadarnhaol ar bobl hŷn’.

Cyhoeddais Ganllaw ffurfiol, o dan Adran 12 Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006, ar Asesiadau Effaith Cydraddoldeb a Hawliau Dynol[6], y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus eu hystyried wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb yn 2016. Byddai hyn yn gyfeiriad defnyddiol i Lywodraeth Cymru ei ddefnyddio, wrth gryfhau’r ddarpariaeth o wasanaethau Llywodraeth Leol i bobl hŷn.

Bydd fy olynydd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol er mwyn sicrhau bod yr agenda ddiwygio’n ystyried anghenion ac amgylchiadau pobl hŷn yn llawn, yn cefnogi’r datblygiad o gymunedau sy'n gyfeillgar i oed a bod Awdurdodau Lleol yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod Cymru’n lle da i fynd yn hŷn - nid dim ond i rai, ond i bawb.

Yr eiddoch yn gywir,


Sarah Rochira
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

CC: Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 



[1] http://www.olderpeoplewales.com/en/Publications/pub-story/14-07-01

[2] http://www.audit.wales/system/files/publications/Independence-Older-People-2015-English.pdf

 

[3] https://gov.wales/topics/localgovernment/communitytowncouncils/review-of-community-town-council-sector/?skip=1&lang=cy

 

[4] http://gov.wales/docs/dsjlg/publications/comm/160316-digital-inclusion-strategic-framework-en.pdf

[5] https://www.carersuk.org/images/Facts_about_Carers_2015.pdf

[6] http://www.olderpeoplewales.com/wl/news/news/16-02-16/Section_12_Guidance_Equality_and_Human_Rights_Impact_Assessments_Scrutiny.aspx#.WwGNEy_Myu6